Lab Cyd-gynhyrchu Cymru
Rydym yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella canlyniadau ar gyfer pobl trwy gydgynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion.
Rydym yn arbenigo ym maes cydgynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion, ac rydym yn gweithio ar draws sectorau gyda’r gwasanaethau cyhoeddus sy’n cefnogi bywydau pobl: y llywodraeth, llywodraeth leol, y sector cyhoeddus, y trydydd sector / sector gwirfoddol, ac addysg.
Rydym yn cynorthwyo timau i ddefnyddio gwerthoedd cydgynhyrchu yn eu gwaith, o gydweithredu, trwy ymgysylltiad arwyddocaol, i gydgynhyrchu llawn ac ymgyfraniad dinasyddion. Os ydych yn sefydliad strategol neu un sy’n cyflenwi, os ydych wedi ymrwymo i gydweithio ac i sicrhau taw llais pobl sydd wrth galon eich gwaith, rydym yma i’ch helpu.

Yr hyn rydych angen ei wybod amdanom.
Rydym yn gwneud pethau gyda chi, nid ar eich cyfer chi. Byddwn gyda chi ar eich taith o ddysgu i ymwreiddio arferion a phrofiad.
Rydym yn cynnig gwasanaethau ymgynghoriaeth a hyfforddiant, ond nid ymgynghorwyr cyffredin ydym. Rydym ar gael i gefnogi, mentora, rhoi cyngor ac arweiniad - i’ch annog, dilysu eich arferion, a’ch herio mewn ffordd adeiladol i wireddu’r canlyniadau gorau posibl. Ein nod bob tro yw cryfhau eich capasiti, eich galluedd a’ch hyder - felly pan ddaw ein taith i ben, byddwch yn cofio’r hyn a ddysgwyd a’r profiad er mwyn gallu eu defnyddio eto yn y dyfodol.
Rydym yn cynnig hyfforddiant pwrpasol ym maes cydgynhyrchu, a sgiliau cysylltiedig megis cyd-werthuso a hwyluso.
Rydym yn cefnogi prosiectau o bob math, o gynlluniau peilot gorchwyl a gorffen, i ymwreiddio newid diwylliannol.
Rydym yn defnyddio dulliau cyd-werthuso er mwyn mesur effaith ac i rymuso pobl i ddysgu a thyfu.
Rydym yn dylunio ac yn hwyluso cynulliadau cydweithredol a chydgynhyrchiol, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Rydym yn hyfforddi ac yn mentora unigolion a grwpiau i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth cydgynhyrchiol.
Ymgynghorwyr, hwyluswyr, hyfforddwyr, cynghorwyr a siaradwyr ydym sy’n meddu ar sgiliau arbenigol ym maes cydgynhyrchu, ymgyfraniad dinasyddion a disgyblaethau cysylltiedig. Rydym yn gweithio fel tîm o ymgynghorwyr sy’n defnyddio profiad helaeth o sectorau amrywiol. Rydym yn cydweithio i gyflenwi prosiectau, sesiynau hyfforddi, gweithdai a chyflwyniadau.
Ein cryfder yw ein gallu i gyfuno hwyluso ymarferol a sgiliau hyfforddi, gyda mewnbwn ymgynghorol a strategol. Gallwn eich helpu i gynllunio a rhedeg digwyddiadau ymgysylltu ac i gyd-ddylunio gweithdai; dylunio a chyflenwi ymyriadau cydgynhyrchiol sy’n cyfrannu at gysylltiadau cryfach a chanlyniadau gwell; a datblygu modelau strategol i sicrhau taw llais y bobl sydd wrth galon eich gwaith a chyfrannu at newid sefydliadol diwylliannol.
Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich gwaith, ac ystyried sut y gallwn eich helpu.