Hwyluso

Rydym yn dylunio ac yn hwyluso cynulliadau cydweithredol a chydgynhyrchiol, a seilir ar werthoedd cydgynhyrchu, ar-lein ac wyneb yn wyneb, sy’n cyfrannu at:

  • sgyrsiau cynhyrchiol
  • meithrin cysylltiadau
  • rhannu a dysgu
  • rhwydweithio draws seilo

Gallwn eich cefnogi i gynllunio er mwyn cyflenwi, neu ddatblygu’r cynlluniau gyda chi a hwyluso ar y dydd er mwyn ichi gymryd rhan. Fel arfer darperir 2 awr o gynllunio ar gyfer pob awr o ddigwyddiad i’w gyflenwi, ac ar y diwrnod, gallwn ddyblu nifer yr hwyluswyr a/neu gallwn ddod â chefnogaeth dechnegol. 

Cysylltwch â ni i dderbyn cynnig pwrpasol: contactus@coprolab.wales

“Mae Lab Cydgynhyrchu Cymru’n arfer agwedd drawsnewidiol o ran dulliau galluogi cyfranogwyr i ymgysylltu. Yn unol â pharamedrau cyffredinol ein prosiect, roedd yr egwyddorion o sgyrsiau a gyd-gynhyrchwyd wedi galluogi ein cyfranogwyr i gadarnhau manylion y ffocws ymchwil eu hunain. Roedd y broses gyfan o gydweithio gyda nhw’n hynod gefnogol -ac wedi ein helpu i lunio ein hymchwil mewn ffordd wirioneddol gynhyrchiol o’r dechrau hyd y diwedd.”
- Yr Athro Matthew Jarvis, Cymrawd Cyfnewid Creadigol, Prifysgol Aberystwyth

Skip to content