Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd hygyrch a chynhwysol.

Rydym yn eirioli dros, a’n nod yw ymgorffori egwyddorion hygyrchedd a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn. Hefyd rydym yn cydnabod y gallwn wneud mwy, ac y gallwn ddysgu’n barhaus. Dyna pam mae’n bwysig inni fod yn agored am ein ffyrdd o weithio, ac y byddwn yn hapus i dderbyn sylwadau ac adborth a fydd ein cynorthwyo i fod ac i wneud yn well.

Gweler isod grynodeb o’r ffyrdd a ddefnyddir i ymdrechu i fod mor hygyrch a chynhwysol â phosibl. Os gwelwch fwlch, neu os oes gennych awgrym o ran sut y gallwn wella, croeso ichi anfon ebost atom ar: hello@copronet.wales. Byddwn yn gweithio gyda chi i wella ein dealltwriaeth a’n harferion. 

Yn yr un modd, os, yn eich barn chi, nid ydym yn cyrraedd y safonau a osodwyd gennym, gallwch roi gwybod inni - sylweddolwn taw bodau dynol ydym, ac mae pawb yn gwneud camgymeriadau o dro i dro, ond gwyddom pa mor bwysig yw cydnabod a chywiro’r rhain. Byddem yn eich annog i sicrhau ein bod yn glynu wrth y safonau a osodwyd gennym.

Arfau hygyrchedd y wefan

Mae dewislen Arfau Hygyrchedd ar ein gwefannau (sydd ar gael ar ben y dudalen yn y gornel dde, gydag eicon person mewn cylch dwbl) sy’n galluogi defnyddwyr i:

  • gynyddu maint y testun
  • lleihau maint y testun
  • troi’r lliwiau’n raddlwyd
  • newid i liwiau cyferbynnedd uchel
  • newid i liwiau cyferbynnedd negyddol
  • newid i gefndir golau
  • tanlinellu dolenni
  • addasu’r ffontiau i rai darllenadwy

Sicrhau fod dolenni’n hygyrch o safbwynt rhaglen darllen sgrin

Wrth gyfathrebu’n electronig trwy ein rhestr bostio, byddwn yn cynnwys dolenni yn y testun sy’n ei wneud yn rhwydd i bobl sy’n defnyddio rhaglen darllen sgrin i weld lle dylid clicio am fwy o wybodaeth.

Defnyddio disgrifiadau o ddelweddau

Lle defnyddir delweddau wrth gyfathrebu’n electronig, byddwn yn cynnwys disgrifiadau o’r delweddau hynny er mwyn i bobl nad ydynt yn gallu gweld y delweddau hynny allu deall yr hyn maent yn ei gyfleu.

Is-deitlau a thrawsgrifiadau ar gyfer adnoddau fideo

Ble bynnag fo’n bosibl, byddwn yn cynnwys is-deitlau yn Gymraeg ac yn Saesneg ar ein fideos, ac yn creu trawsgrifiadau o gynnwys clywedol. Nid oes gennym gapasiti i is-deitlo a thrawsgrifio pob fideo a gynhyrchir (e.e. ar gyfer recordiadau dal fyny’r #CoproMonday bob wythnos), ond byddwn yn gofalu y gwneir hynny wrth gynhyrchu fideos sy’n adnodd hirdymor (e.e. y fideo “beth yw cydgynhyrchu”).

Gofyn am anghenion hygyrchedd ar gyfer digwyddiadau

Fel rhan o’r broses cofrestru ar gyfer ein digwyddiadau, byddwn yn gofyn bob tro os oes gan gyfranogwyr unrhyw anghenion ychwanegol y gallwn ddarparu ar eu cyfer i wella eu profiad, a byddwn yn ystyried hyn wrth gynllunio a chyflwyno ein digwyddiadau.

Cymryd rhan mewn digwyddiadau ar-lein (trwy Zoom neu Teams)

Byddem yn annog cyfranogwyr i gymryd rhan yn y ffordd fwyaf cyfforddus ac adeiladol iddyn nhw yn ein cyfarfodydd, hyfforddiant a gweminarau ar-lein. Mae hyn yn cynnwys agor neu ddiffodd camera, cyfrannu drwy ddefnyddio’r teclyn sgwrsio neu lais, a defnyddio ymatebion. Ein nod yw sicrhau fod pawb yn gallu cymryd rhan yn y ffordd sydd fwyaf addas iddyn nhw.

Skip to content