Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn egluro sut mae Lab Cydgynhyrchu Cymru’n defnyddio’r wybodaeth a gesglir trwy ein gwefan a pha gwcis rydym yn eu defnyddio.
Pa wybodaeth a gedwir gennym?
Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol trwy’r wefan naill ai drwy ffurflenni na thrwy werthu cynnyrch. Byddwn yn cofnodi eich gweithgareddau a’ch dewisiadau wrth ymweld â’r wefan trwy ddefnyddio cwcis.
Beth sy’n digwydd i’r wybodaeth yma?
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth yma i redeg y wefan, ac i ddadansoddi a chyflawni ymchwil i wella ein dulliau cyfathrebu.
Pwy arall sydd â mynediad at eich gwybodaeth?
Mae Lab Cydgynhyrchu Cymru’n defnyddio cwmnïau cyflenwi sy’n ein helpu i redeg y wefan hon (TSOHost, SiteGround). Fel y cyfryw, hwyrach y cedwir peth o’r wybodaeth mewn gwledydd tu allan i’r Deyrnas Unedig neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) lle mae deddfau diogelu data’n wahanol i rai’r DU neu’r AEE; mae hyn oherwydd dyluniad gweinyddwyr lle caiff systemau ffeilio eu copïo rhwng canolfannau data sy’n cael eu gwasgaru ar draws ardal ddaearyddol eang i sicrhau mwy o gydnerthedd.
Sut rydym yn defnyddio cwcis?
Mae’r wefan hon yn cynnwys cwcis. Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur trwy wefannau rydych yn ymweld â nhw. Maent yn cael eu defnyddio i sicrhau fod gwefannau’n gweithio, neu’n gweithio’n fwy effeithlon, yn ogystal ag i ddarparu gwybodaeth i berchnogion gwefannau. Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu rhywfaint o reolaeth o ran cwcis, trwy osodiadau’r porwr. I ddysgu mwy am gwcis, gan gynnwys gweld pa gwcis a osodwyd a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i: AboutCookies.org.uk.
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis sy’n angenrheidiol i’ch galluogi i symud o gwmpas y wefan neu i ddarparu nodweddion sylfaenol. Mae’r wefan hefyd yn defnyddio cwcis perfformiad sy’n casglu gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio’r wefan, megis sut rydych yn cael eich cyfeirio ati, a faint o amser rydych yn treulio ar dudalennau penodol. Caiff yr wybodaeth yma ei chydgrynhoi, ac felly mae’n ddienw a chaiff ei defnyddio’n unig i wella perfformiad y wefan.
Diogelwch
Mae eich diogelwch yn hynod bwysig inni. Rydym yn cymryd camau i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac yn dilyn gweithdrefnau sy’n lleihau cymaint â phosib unrhyw fynediad anawdurdodedig neu i ddatgelu eich gwybodaeth. Er hynny, ni fedrwn warantu dileu pob risg o gamddefnyddio data.
Mae gennych hawl cyfreithiol i wybod pa wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch a sut y caiff yr wybodaeth ei phrosesu. Os hoffech wybod pa wybodaeth sydd gennym, gallwch ysgrifennu atom: enquiries@coprolab.wales. Byddwn yn gofyn ichi brofi pwy ydych. Ni fyddwn yn codi ffi ar gyfer hyn oni bai bod y cais yn ddi-sail neu’n ormodol, ac yn y fath achos, hwyrach y byddwn yn codi ffi resymol ar gyfer y costau gweinyddol o gydymffurfio â’r cais. enquiries@coprolab.wales. We will ask you for proof of identity. We will not charge a fee for this unless the request is manifestly unfounded or excessive in which case we may charge a reasonable fee for the administrative costs of complying with the request.