Prosiectau

Rydym ar gael i gefnogi a chadw cwmni ichi ar eich taith gydgynhyrchu, boed yn gynllun peilot gorchwyl a gorffen penodol, neu gynllun estynedig i ymwreiddio newid diwylliannol - ac unrhyw beth yn y canol.

Ein ffordd o weithio

Y peth cyntaf bob tro, yw dod i’ch adnabod chi. Mae angen inni eich deall, fel tîm ac fel sefydliad, ynghyd â’ch disgwyliadau, dyheadau a’r canlyniadau arfaethedig. Byddwn yn gofyn cwestiynau er mwyn cadarnhau diben y prosiect, a’n sgyrsiau yn sgil hynny.

O hynny ymlaen, gwnawn bethau ‘gyda’ chi, nid ar ‘eich cyfer’ chi. Byddwn gyda chi ar hyd y daith, a byddwn yn arddangos pecyn cymorth o dechnegau a sgiliau sy’n meithrin cydgynhyrchu ac ymgyfraniad arwyddocaol. Byddwn yn cynnig arweiniad a chyngor, a byddwn yn defnyddio ein profiad o weithio gydag ystod eang o sefydliadau a sectorau. Byddwn yn cefnogi’ch tîm i fagu eu sgiliau, yn ogystal; â’u hyder mewn perthynas â’r dull hwn o weithio. Skip to content

Mae ein prosiectau’n edrych yn wahanol iawn, ond mae tri pheth yn berthnasol i bob un ohonynt:

Amrywiaeth a chynhwysiant, oherwydd mae’n hollbwysig fod pawb sy’n gysylltiedig â’r deilliannau yn cael llais yn y broses. 
Monitro a (chyd)-werthuso, er mwyn bod yn siŵr ein bod yn gwybod beth sy’n dda, a’n bod ar y trywydd iawn.
Meithrin cysylltiadau a seilir ar ffydd, oherwydd hwyrach y byddwn yn gweithio ar brosiect, ond mae un llygad ar yr hirdymor bob tro. 

Nid ymgynghorwyr cyffredin ydym. Byddwn yno ac yn cynnig cefnogaeth ymarferol bob cam o’r ffordd, ond byddwn hefyd yn eich paratoi i wneud hyn dros eich hunain, er mwyn i’r sgiliau a’r profiad sy’n cael eu meithrin yn ystod y broses fod yn gynaliadwy, ac yn parhau ymhell ar ôl inni orffen cydweithio.

Gall prosiect byr edrych fel hyn efallai

Byddwn yn cadw cwmni ac yn rhoi arweiniad ichi ar weithredu cydgynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion, mewn perthynas â her arbennig:

  • Byddwn yn adnabod eich arferion da presennol ac yn adeiladu ar hynny.
  • Byddwn yn cadarnhau beth yn union mae cyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion yn eu golygu.
  • Byddwn yn mentora ac yn rhoi arweiniad i’ch tîm i ddefnyddio’r dull hwn o weithio ar gyfer eich her.
  • Byddwn yn cynnig dull o weithio hyblyg sy’n cyfuno hyfforddiant, hwyluso, mentora a chymorth fel bo angen.

Un tîm, un her: a chwestiwn “sut gallwn ni…” .

Gall rhaglen newid diwylliant edrych fel hyn

Byddwn yn eich helpu i fabwysiadu ymddygiad cydgynhyrchiol a newid diwylliant eich sefydliad:

  • Ymateb i ofynion deddfwriaethol mewn perthynas â chydgynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion.
  • Ymwreiddio cydgynhyrchu trwy fagu sgiliau, galluedd a phrofiad ymhlith eich timau.
  • Creu lle ar gyfer arloesi a gweithio mwy fel sefydliad sy’n dysgu.
  • Meithrin eich gallu i weithredu mewn cymhlethdod ac ymateb i gyd-destunau esblygol.
  • Datblygu atebion newydd i heriau presennol trwy fanteisio ar gysylltiadau dibynadwy.

Un sefydliad arweiniol, sy’n gweithio ar draws nifer o dimau, gyda phartneriaid, a gyda dinasyddion/cymunedau.

Cysylltwch â ni

Gadewch inni gael sgwrs am le ydych ar hyn o bryd, a ble hoffech chi fod. Gallwn ddylunio cynnig sy’n cyfuno sesiynau hyfforddiant, mentora, cynllunio neu ymgynghorol, a hwyluso, sy’n addas i’ch anghenion chi: contactus@coprolab.wales

"Trwy weithio gyda chi, llwyddwyd i sicrhau fod pob aelod o’r tîm yn rhannu dealltwriaeth gyffredin o gydgynhyrchu a gweledigaeth o ran sut roeddem am ei ymgorffori yn ein gwaith a’n diwylliant, yn ogystal â mynediad at brofiad, gwybodaeth ac atebion ymarferol gan arbenigwyr yn y maes. Nid oedd yn teimlo’n faich o gwbl, nac ein bod yn ‘ticio blwch’ ac roedd yn agoriad llygaid ac yn bleserus."
- Lucy James, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol – Ymgysylltiad, Cyfoeth Naturiol Cymru

Skip to content