Dyma ni!
Ymgynghorwyr, hwyluswyr, hyfforddwyr, cynghorwyr, a siaradwyr ydym, sy’n meddu ar sgiliau arbennig ym maes cydgynhyrchu, ymgyfraniad dinasyddion a disgyblaethau cysylltiedig, gyda phrofiad helaeth ar draws sectorau.
Os hoffech ein hurio: contactus@coprolab.wales
Ena
Lloyd
Gordon
Bell
Gwenno
Edwards
Hayley
Trowbridge
Jenny
Mushiring'ani Monjero
Josh
Beynon
Mike
Corcoran
Noreen
Blanluet
Rae
Baker
Rox
Treacy
Suzanne
Iuppa
Vikki
Butler
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio fel aelod o’n tîm, cysylltwch â ni.
Rhai o’r pethau defnyddiol o’ch safbwynt chi efallai: mae pob un ohonom yn gweithio ar sail lawrydd dan faner Lab Cydgynhyrchu Cymru. Hefyd rydym yn cyflawni gwaith i Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru pan fo angen (digwyddiadau, hyfforddiant, cyngor a mentora). Mae llawer ohonom yn cyflawni gwaith ar gyfer cleientiaid eraill, a/neu rydym yn swyddogion cyswllt gydag ymgynghoriaethau eraill. Mae rhai ohonom yn gyflogedig yn rhan-amser gyda sefydliad, ac yn cyflawni eich gwaith llawrydd ochr yn ochr â hynny. Rydym yn dueddol o weithio ar brosiectau fel timau bach o ryw 2 - 4 o bobl, ac rydym yn cefnogi ein gilydd ar draws portffolio gwaith y Lab Cydgynhyrchu.
Mae grŵp craidd yn rhannu’r cyfrifoldebau strategol a gweithredol sy’n cefnogi cyflawni gwaith prosiect, ac yn adrodd i Fwrdd Cyfarwyddwyr Rhwydwaith Cydgynhyrchu ac Ymgysylltiad Cymru (sef yr endid cyfreithiol sy’n cynnwys Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru a Lab Cydgynhyrchu Cymru). Mae unrhyw warged sy’n deillio o brosiectau’r Lab Cydgynhyrchu yn cyfrannu at gostau gweithredu’r Rhwydwaith Cydgynhyrchu, a’r gymuned o arferion cydgynhyrchu a gefnogir ganddo.
If this set up sounds like it would work for you, and you have skills and experience that would contribute to our range of activities, do drop us a line to register your interest: team@coprolab.wales. We recruit approximately annually to grow the team, and we can let you know when the next window of opportunity opens.