Mae mynediad ar gael at hyfforddi blasu a chyrsiau hunangyfeiriedig fel rhan o ddarpariaeth Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ar gyfer y gymuned ymarfer.(Mwy o fanylion fan hyn.))
Fodd bynnag, os ydych yn chwilio am hyfforddiant mewnol mwy trylwyr, sy’n bwrpasol i’ch cyd-destun ac anghenion, ac a fydd yn galluogi eich tîm i ddysgu a datblygu, rydym yn cynnig cyfres hyfforddi o arfau a thechnegau sydd yn ein barn ni’n effeithiol wrth gefnogi arferion cydgynhyrchu cadarn.
Cyflwynir ein holl sesiynau hyfforddi ar-lein trwy Zoom neu Teams, a gellir eu recordio er mwyn ichi eu defnyddio’n fewnol. Mae sesiynau ar-lein yn cynnig opsiwn cost-effeithiol heb oblygiadau teithio er mwyn i gydweithwyr o leoliadau gwahanol fynychu’r un pryd; ond os hoffech dderbyn hyfforddiant wyneb yn wyneb, cysylltwch â ni i gael dyfynbris: contactus@coprolab.wales

Cyd-gynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion
I sefydlu dealltwriaeth ac iaith gyffredin o ran cyd-gynhyrchu / ymgyfraniad; eglurder am ei ddiben a lle bydd yn ychwanegu gwerth at eich gwaith; ac amlinelliad o’r hyn y mae gweithredu’n ei olygu, i ddechrau rhoi’r hyfforddiant ar waith.
(modiwl o 2 awr)
Cyflwyniad
Gweithredu
Mentora
Sgiliau hwyluso ar gyfer cyd-gynhyrchu ar-lein
Sgiliau hwyluso ac ymgysylltu i greu amgylchfyd o ymddiried, herio adeiladol a chydweithredu. Sut i gynllunio a chyflenwi ymgysylltu a chydgynhyrchu arwyddocaol: fframwaith i’w deilwra ar gyfer cynulleidfaoedd a sianeli.
(modiwl o 2 awr)
Cyflwyniad
Gweithredu
Mentora
Gwerthuso ac effaith wrth gyd-gynhyrchu
Cysyniadau ac arferion allweddol ar gyfer gwerthuso cyd-ddatblygiadol a mesur effaith wrth gydgynhyrchu, trwy ddefnyddio pecyn cymorth 'Mesur yr hyn sy’n Bwysig': dewis y dulliau cywir i ofyn y cwestiynau cywir, i’r bobl gywir, yn y ffordd gywir.
(modiwl o 2 awr)
Cyflwyniad
Gweithredu
Mentora
Sgiliau cyfathrebu ar gyfer cyd-gynhyrchu
Trwy ddefnyddio model Cyfathrebu Di-Drais Marshall Rosenberg, “gwrando gyda chlustiau jiráff” sy’n cynnig sgiliau i bobl sy’n cydgynhyrchu: oherwydd taw cysylltiadau yw’r egwyddor sylfaenol ar gyfer cydgynhyrchu, cymhlethdod ac arloesi.
(modiwl o 2 awr)
Cyflwyniad
Gweithredu
Mentora
Sesiynau briffio a gweithdai Cydgynhyrchu
Gallwn deilwra sesiynau briffio byr ar gyfer timau gweithredol a byrddau (20 - 40 munud), yn ogystal â datblygu sesiynau cydgynhyrchu trwy weithdai i hwyluso prosesau myfyrio a chynllunio. Cofiwch gysylltu i ddweud wrthym sut y gallwn helpu.
Ar gyfer ymholiadau am hyfforddiant
Cysylltwch â ni i drefnu galwad cychwynnol er mwyn inni ddeall eich cefndir a chyd-destun, cyfranogwyr ac ystyriaethau hygyrchedd, a’r deilliannau dysgu sydd gennych mewn golwg: contactus@coprolab.wales

"Diolch yn fawr am yr hyfforddiant ddoe. Mae eich brwdfrydedd, eich arbenigedd a’r gallu i gyfleu hyn oll i’ch cynulleidfa wedi gwneud cryn argraff, yn enwedig mewn gofod digidol, sy’n gallu bod yn heriol. Yn ddiau, yr hyfforddiant ar-lein gorau a gefais erioed. Wedi mwynhau’n fawr, ac edrychaf ymlaen at ei arfer yn fy swydd newydd."
- cyfranogwr hyfforddiant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf